
Ehangu ar bresenoldeb digidol eich clwb
Free
Yn y byd sydd ohoni heddiw mae pawb yn brwydro i ddenu ein sylw a’n hamser. Nid yw’r byd pêl-droed yn eithriad i hynny. P’un a ydych chi wedi eich magu ym mhrysurdeb technoleg neu’n ansicr lle i ddechrau, mae sawl ffordd y gall eich clwb pêl-droed elwa o ehangu ar ei bresenoldeb digidol.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n gyfrifol am y defnydd mae eu clwb pêl-droed cymunedol yng Nghymru yn ei wneud o dechnoleg ddigidol ar hyn o bryd, neu sy’n gobeithio ehangu ar y defnydd hwnnw.
